
Cludiant i'r Ysbyty
Mae nifer o opsiynau ar gael i'r rhai sydd angen cludiant i ysbytai yn Sir Benfro:
Ceir Gwledig y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
Cysylltwch â Simon Rickard drwy ffonio 07585997091 neu anfon e-bost at simon.rickard@royalvoluntaryservice.org.uk
Cysylltwch â Sue Canham drwy ffonio 07771334406 neu anfon e-bost at sue.canham@royalvoluntaryservice.org.uk
Ceir Gwledig hygyrch i gadeiriau olwyn a ddarperir gan Gludiant Gwirfoddol Sir Benfro mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
Cysylltwch â Kellie drwy ffonio 07734 830 683 neu anfon e-bost at kellie@pembrokeshirevoluntarytransport.org.uk
Bws y Ddraig Werdd
Am ymholiadau ac archebion, ffoniwch 01239 698506 neu anfonwch e-bost at admin@greendragonbus.co.uk
Fflecsi
Gall gwasanaeth Fflecsi fynd â chi i Ysbyty De Sir Benfro, Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Gallwch archebu drwy ffonio 0300 234 0300 , neu ymweld â'r wefan fflecsi.wales
Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-frys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (NEPTS)
Mae cludiant ar gael i gleifion yng Nghymru sydd angen cyrraedd apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys ac sydd ag angen meddygol penodol.
I archebu, ffoniwch 0300 123 2303 .
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan WAS NEPTS drwy glicio yma .
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Dilynwch y ddolen hon i weld llwybrau ac amserlenni bysiau trafnidiaeth gyhoeddus Cyngor Sir Penfro.
Tîm Sefydliadau Gwirfoddol Canolradd Sir Benfro ( PIVOT)
Rydym yn croesawu atgyfeiriadau gan staff iechyd a gofal cymdeithasol, meddygfeydd teulu a sefydliadau trydydd sector eraill, fel broceriaid y sector gwirfoddol. Ffoniwch: 01437 774335 7 diwrnod yr wythnos o 8am i 6pm (5pm cais olaf am gludiant).
Tocyn Teithio Rhatach Cymru Gyfan
Mae hyn yn rhoi’r hawl i drigolion Cymru 60 oed a hŷn a phobl ag anableddau deithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol ledled Cymru a chael gostyngiadau ar lawer o wasanaethau trafnidiaeth gymunedol. I wneud cais am docyn teithio rhatach cysylltwch â Thrafnidiaeth Cymru – cliciwch yma: https://trc.cymru/travelcards . Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch ag Uned Drafnidiaeth y Cyngor ar 01437 764551.
Cwestiynau Cyffredin
Does gen i ddim cludiant ac alla i ddim defnyddio Cludiant Cyhoeddus ?
Gall Gwasanaeth Gofal Cleifion Gwasanaeth Ambiwlans Cymru drefnu cludiant am ddim i ac o apwyntiadau cleifion allanol arferol mewn clinigau, ysbytai a chanolfannau dydd. Bydd angen i chi fodloni meini prawf penodol i fod yn gymwys, ond os byddwch yn ateb 'ydw' i unrhyw un o'r cwestiynau canlynol, dylech fod â hawl i gludiant:
Oes angen i chi deithio mewn cadair olwyn?
Oes angen cefnogaeth barhaus arnoch i gerdded?
Ydych chi'n dioddef o broblem iechyd meddwl, anabledd dysgu, anhawster lleferydd, golwg neu glyw, sy'n eich atal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Ydych chi'n profi sgîl-effeithiau o ganlyniad i'ch triniaeth neu gyflwr meddygol, sy'n eich atal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Oes angen stretsier, neu ocsigen neu nwyon meddygol eraill arnoch chi ar gyfer y daith?
Ydych chi'n derbyn dialysis neu driniaeth canser yn rheolaidd ar hyn o bryd?
Yn ogystal â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn trefnu ac yn darparu cludiant am ddim i ysbytai neu feddygfeydd deintydd i gleifion nad ydynt yn addas yn feddygol i deithio trwy unrhyw ddull arall. Ffoniwch 0300 123 23 03 am ragor o wybodaeth. Fel arfer mae angen rhybudd o leiaf 48 awr ymlaen llaw.
A all rhywun ddod gyda mi ar y Gwasanaeth Cludiant Ysbyty ?
Mae yna adegau pan fydd gofalwr yn gallu mynd gyda chi ar gludiant yr Ysbyty, er enghraifft:
Mae angen gofal cyson arnoch chi drwy gydol y daith
Mae gennych anawsterau cyfathrebu difrifol neu gyflwr iechyd meddwl sy'n ei gwneud hi'n anaddas i chi fod ar eich pen eich hun
Mae angen cefnogaeth arnoch ar gyfer atgyfeiriad cyntaf
Rydych chi'n derbyn dialysis neu driniaeth canser
Rydych chi o dan 18 oed
Mae fy apwyntiad mewn sir wahanol nawr? +
Os ydych chi'n gymwys i gael y cymorth uchod yna byddant yn gallu darparu cludiant i unrhyw ysbyty lle mae'r apwyntiad.
Dydw i ddim yn gymwys i gael cludiant am ddim gyda'r Gwasanaeth Cludiant Ysbyty? +
Os nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf ar gyfer Cludiant Ysbyty am ddim y Gwasanaeth Gofal Cleifion, efallai y byddwch chi'n gallu cael mynediad at fathau eraill o Gludiant Cymunedol o ddrws i ddrws:
- Ceir Gwledig Sir Benfro – Mae'r cynllun hwn yn cael ei redeg gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ac mae'n darparu cludiant i bobl na allant deithio mewn unrhyw ffordd arall. Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan yrwyr gwirfoddol sy'n defnyddio eu ceir eu hunain ac mae tri char hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael hefyd. Ffoniwch 07585997091 i ymholi. Teithiwch am bris gostyngol gyda Thocyn Teithio Rhatach.
- Gellir defnyddio gwasanaeth Fflecsi Sir Benfro hefyd i deithio i Ysbyty Llwynhelyg o unrhyw le yng Ngogledd-orllewin Sir Benfro. Ffoniwch 0300 234 0300 neu ewch i www.fflecsi.wales .
- Gwasanaethau Bws Mws Tref – Gwasanaethau minibws hygyrch o ddrws i ddrws yw’r rhain a weithredir gan Green Dragon Bus, ar gyfer teithiau lleol o fewn prif drefi’r Sir.
Gellid defnyddio'r rhain i gael mynediad i Ysbyty Llwynhelyg – Bws Tref Hwlffordd ar ddydd Mawrth a dydd Gwener
Ysbyty De Sir Benfro – Bws Doc Penfro/Penfro ar ddydd Mawrth a dydd Iau
Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod – Bws Tref Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener
Ysbyty Aberteifi – Bws Tref Aberteifi ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener (gall y gwasanaeth hwn hefyd gynnig lifft o Fwlchygroes a Thegryn ac arosfannau eraill ar y ffordd i Aberteifi, ac o Fynachlogddu ar ddydd Mercher). Mae yna hefyd fws galw-am-daith Llandudoch sy'n gweithredu ar ddydd Iau o ardaloedd Llandudoch, Trewyddel, Cilgerran a Llechryd.
- Teithiwch AM DDIM gyda Thocyn Teithio Rhatach neu talwch ffi os nad oes gennych docyn. Gall unrhyw un sy'n methu â chael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ddefnyddio'r gwasanaethau, am unrhyw reswm. Am ymholiadau neu archebion ffoniwch 0845 686 0242.
- Gellir defnyddio gwasanaeth Fflecsi Sir Benfro hefyd i deithio i Ysbyty Llwynhelyg – ffoniwch 0300 234 0300 neu ewch i www.fflecsi.wales .
Alla i gael help gyda'r gost? +
Os ydych chi'n derbyn Budd-daliadau sy'n Gysylltiedig ag Incwm neu os oes gennych chi incwm isel, efallai y byddwch chi'n gallu cael ad-daliad ar gost eich taith. Mae cleifion sy'n derbyn rhai budd-daliadau neu sydd ar y Cynllun Incwm Is yn gymwys i wneud cais am gymorth gyda'r costau cludiant angenrheidiol ar gyfer triniaeth y GIG dan ofal ymgynghorydd. Gellir talu'r costau'n llawn, neu'n rhannol, a gall y rhain gynnwys:
- Prisiau trafnidiaeth gyhoeddus.
- Lwfans milltiroedd am deithio mewn car preifat neu gostau trafnidiaeth gyhoeddus cyfatebol (pa un bynnag yw'r lleiaf).
- Cyfraniadau y gall y claf eu gwneud tuag at gostau cludiant os cânt eu cludo i'r ysbyty neu oddi yno gan ddarparwr cludiant cymunedol neu gynllun ceir gwirfoddol lleol.
Y prif bwynt cyswllt ar gyfer y cynllun hwn fydd y Swyddfeydd Cyffredinol sydd wedi'u lleoli ym mhob un o'n Hysbytai.
Rwy'n bwriadu teithio mewn car – beth am barcio? +
Ysbyty Llwynhelyg – mae parcio ar y safle am ddim.
Ysbyty Glangwili – Gall parcio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili fod yn heriol yn ystod cyfnodau prysur. Am y rheswm hwn, rydym wedi sefydlu gwasanaeth parcio a theithio o faes parcio maes sioe Nantyci i'r ysbyty. Mae hwn ar agor i bob claf, ymwelydd a staff a dim ond 15 munud y mae'n ei gymryd i fynd rhwng y safleoedd. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o 07:00 i 19:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn rhedeg bob 30 munud. Mae casglu o faes y sioe ar yr awr a hanner awr wedi'r awr. Mae casglu o'r ysbyty bob chwarter i a chwarter wedi'r awr. Cost y gwasanaeth hwn yw £1 y pen ac mae'n cynnwys dychwelyd. Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, dilynwch y ddolen hon: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/83744
Oes unrhyw gymorth arall? +
Teuluoedd ifanc agored i niwed – Mewn llawer o achosion, ni fydd teuluoedd yn gallu talu costau cychwynnol y teithiau hyn, a gellir darparu tacsis neu docynnau bws lle bo gwasanaethau bws yn briodol. Bydd llyfrau tocynnau ar gael yn y wardiau a'r adrannau canlynol, a byddant yn cael eu cyhoeddi yn ôl disgresiwn yr Uwch Nyrs ar ddyletswydd:
- Ysbyty Glangwili – Ward Cilgerran / SCBU / PACU / MLU / A&E / CAMHS.
- Ysbyty Llwynhelyg – PACU / MLU / A&E/ CAMHS
Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Cysylltwyr Trafnidiaeth PACTO drwy ffonio 01437 701 123 neu anfon e-bost at transportconnector@pacto.org.uk i ddod o hyd i'r opsiwn cywir i chi.