
Croeso yn ôl ar fwrdd gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro



Mae gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol yn barod i groesawu teithwyr yn ôl yn ddiogel i wasanaethau ledled Sir Benfro, wrth i gyfyngiadau symud a theithio COVID gael eu codi dros yr wythnosau nesaf.
Mae grantiau gwerth cyfanswm o £38,000 gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro 1 a Llywodraeth Cymru 2 wedi darparu PPE ar gyfer staff a gyrwyr gwirfoddol, offer niwlio arbenigol fel y gellir glanhau cerbydau'n gyflym ac yn effeithiol rhwng gwasanaethau, a chyllid i wella gwasanaethau galw-am-reid i ddiwallu anghenion teithwyr tra bod gofynion cadw pellter cymdeithasol yn parhau.
Dywedodd Debbie Johnson o Gymdeithas Sefydliadau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro (PACTO) “Os ydych chi’n nerfus ynglŷn â mynd allan ac o gwmpas eto ar ôl y cyfnod clo, mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol Sir Benfro yma i’ch cefnogi. Mae gennym fesurau diogelwch COVID ychwanegol ar waith, rydym yn cludo nifer fach o deithwyr gyda phellhau cymdeithasol ar waith, a byddwn yn gwarantu eich sedd ar gyfer eich taith allan ac yn ôl”.
Mae'r gwasanaethau'n cynnwys gwasanaethau Town Rider o ddrws i ddrws ym mhob un o brif drefi Sir Benfro ac Aberteifi, a weithredir gan Preseli Green Dragon, yn ogystal â gwasanaethau galw-am-reid hyblyg gwledig yn yr ardaloedd o amgylch Arberth (bws Bloomfield), Bryniau Preseli (Green Dragon) a'r gwasanaeth Fflecsi newydd sy'n gweithredu ledled Gogledd-orllewin Sir Benfro a Phenrhyn Tyddewi (Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro).
Mae gwasanaeth Ceir Sir Benfro, a redir gan wirfoddolwyr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, yn parhau i helpu pobl gyda theithiau siopa hanfodol, a theithiau i apwyntiadau meddygol, fel y maent wedi'i wneud drwy gydol y pandemig.
Gall Cyfeillion Bws PACTO ddarparu cefnogaeth a chyngor ychwanegol i unrhyw un sydd angen help i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu gymunedol, neu sy'n bryderus ynglŷn â mynd allan eto.
Dywedodd Mrs McCanch, un o deithwyr y Green Dragon, “Mae’n wych gallu mynd allan unwaith eto a dewis fy siopa fy hun yn lle dibynnu ar wirfoddolwyr a theulu (nid nad ydyn nhw’n dda ond rydych chi’n gwybod beth dw i’n ei olygu)! Mae’n gyfle i gofio sut beth oedd ‘normal’. Fyddwn i ddim heb y bws cymunedol, diolch i bawb.”
Am ragor o wybodaeth am yr holl wasanaethau hyn ewch i www.pacto.org.uk , anfonwch e-bost at busbuddies@pacto.org.uk neu ffoniwch 01437 770119.
Nodiadau i Olygyddion
- Cyllid o Gronfa Cefnogi Gweithredu Cymunedol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.
- Darparwyd cyllid Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol a gydlynwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Capsiynau Lluniau:
- Pawb ar fwrdd Bws Bloomfield sydd wedi'i osod â sgrin gyrrwr wedi'i chynllunio'n arbennig
- Offer niwlio arbenigol yn cael ei ddefnyddio i ddiheintio minibws cymunedol y Ddraig Werdd rhwng gwasanaethau.
- Mae gwasanaeth Fflecsi yn barod i'ch helpu i deithio'n ddiogel o amgylch Gogledd-orllewin Sir Benfro