Cysylltwyr Trafnidiaeth


Mae Cysylltwyr Trafnidiaeth PACTO yn helpu i feithrin cysylltiadau rhwng gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol a'u teithwyr, darpar deithwyr a'r bobl a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi.

Os oes gennych ymholiad ynghylch trafnidiaeth yn Sir Benfro, mae croeso i chi gysylltu â'n Gwasanaeth Cysylltwyr Trafnidiaeth drwy ffonio 01437 701123 neu anfon e-bost at transportconnector@pacto.org.uk .

Gallwch gysylltu â'r Cysylltwyr Trafnidiaeth rhwng 9:30am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ein tîm Cysylltwyr Trafnidiaeth yw:

  • Alison Morgan
  • Ruby Woods
  • Jo Hicks

Gallwch gael mynediad at ein Ffurflen Atgyfeirio Cysylltydd Trafnidiaeth Gymunedol a'i chyflwyno drwy ddilyn y ddolen hon.