Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro

Mae Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro (PVT) yn helpu pobl gyda thrafferthion cludiant oherwydd eu hoed, anabledd, sefyllfa bersonol neu oherwydd eu bod yn byw mewn ardal wledig anghysbell heb lawer o gludiant cyhoeddus.

Pembrokeshire Voluntary Transport Minibus

Mae gan PVT fflyd o gerbydau hygyrch i gadair olwyn sydd ar gael i unigolion a sefydliadau dielw eu defnyddio. Mae’n rhaid i chi fod yn aelod o PVT i ddefnyddio ein bysus - ac er mwyn ymuno, mae croeso i chi alw Brian ar 01437 710 349.


Gyrwyr

Anogir sefydliadau i ddod â’u gyrwyr eu hunain. Mae gofyn i bawb sy’n dymuno gyrru bws mini ddilyn cwrs MIDAS, sef Cynllun Ymwybyddiaeth i Yrwyr Bws Mini.

Mae gan PVT griw bach o wirfoddolwyr sy’n fodlon gyrru ar ran sefydliadau eraill. Oherwydd mai ychydig o’r rhain sydd ar gael, os ydych chi am i ni gael gyrrwr i chi, ceisiwch ofyn am un mewn da bryd a bod yn fodlon newid rhywfaint ar amser neu ddiwrnod eich taith.

Mae’n dda gennym glywed bob amser gan yrwyr gwirfoddol newydd a gwirfoddolwyr nad ydynt yn gyrru. Os oes gennych chi ychydig o amser i’w roi ac eisiau ymuno â’n tîm ni, mae croeso i chi alw Brian ar 01437 710 349.

 

Share this page...

Current Volunteering Opportunities