Ceir Gwledig Sir Benfro
Mae Ceir Gwledig Royal Voluntary Service yn darparu cludiant ar gyfer siwrneiau i bobl nad ydynt yn gallu mynd i ben eu siwrnai mewn unrhyw fordd arall. Caiff y cynllun ei gynnal gyda gyrwyr gwirfoddol sy’n defnyddio eu car eu hunain.
Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn? Unrhyw berson sy’n byw yn Sir Benfro nad yw’n gallu defnyddio car neu drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid i oedolyn deithio gyda phlant.
Pryd mae’r gwasanaeth ar gael? Bob dydd yn ystod yr wythnos - a rhai penwythnosau, os oes gyrrwr ar gael.
Ymhle fydda i’n cael fy nghodi? Ble bynnag y mynnwch! e.e. o’ch cartref, o’ch meddygfa leol, o’r orsaf drenau.
Ble alla i fynd? Unrhyw le o fewn radiws o 40 milltir.
Allwch chi fynd â’m cadair olwyn? Gallwn fynd â chwsmeriaid yn eu cadair olwyn yn un o gerbyd hygyrch sydd gennym. Os yw’r gadair olwyn yn plygu, mae’n debyg y gallwn eich cludo yn rhai o geir arferol ein gwirfoddolwyr. Gallwn hefyd gario’r rhan fwyaf o gynorthwyon cerdded, fel fframiau zimmer.
Beth yw'r gost? Mae prisiau yn cyfateb yn fras i brisiau teithio ar fysiau cyhoeddus.
Alla i ddefnyddio fy hawleb bws? Gallwch, mae'n golygu y gallwch deithio am hanner pris.
I archebu lle, ffoniwch
07585 997091
neu rhoi ebost i: pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk
Dylech roi o leiaf 48 awr o rybudd os oes modd.
Gwneud taith mewn cerbyd hygyrch
Caiff Ceir Gwledig Sir Benfro ei weithredu gan Royal Voluntary Service a’i ariennir gan Gyngor Sir Penfro.